Ynni Cymunedol Cymru

Ymuno â Ni

Sefydlwyd Ynni Cymunedol Cymru fel sefydliad i aelodau er mwyn hyrwyddo twf y sector ynni cymunedol yng Nghymru. Bydd yn ysbrydoli a grymuso cymunedau drwy gefnogaeth ar y cyd, dysgu gan gymheiriaid, a rhwydweithio ar draws y sector, gan ddylanwadu ar bolisi a meithrin ymddiriedaeth, gyda’r nod o atgyfnerthu gweithgaredd a sicrhau bod prosiectau ynni cymunedol yn haws i’w gwireddu.

Mae’r buddion posibl i gymunedau fydd yn deillio o gymryd rhan mewn prosiectau ynni cymunedol yn anferth, ond mae’r heriau hefyd yn fawr. Drwy rannu profiadau, cyfeirio at gymorth, cronni adnoddau a deall ble all cyfleoedd ymddangos yn y dyfodol, gallwn gynyddu’r cyfleoedd i gymunedau datblygu’r cyfleoedd hyn.

Bydd ymaelodi ag Ynni Cymunedol Cymru yn galluogi i’r sector weithio gyda’i gilydd tuag at amcan cyffredin o sefydlu ynni cymunedol fel ysgogydd pwysig mewn perthynas â chynaliadwyedd Cymru yn y tymor hir ac adeiladu cymunedau annibynnol a mentrus.

Mae yna ddau brif ddosbarth o aelodaeth ar gyfer Ynni Cymunedol Cymru; Aelodau Cymunedol ac Aelodau.

Mae’r Aelodau Cymunedol yn:

(a) Unrhyw fenter gymdeithasol neu sefydliad dielw sy’n cynnal, neu’n bwriadu cynnal, prosiect ynni cymunedol yng Nghymru, y mae eu haelodau’n bennaf yn perthyn i’r cymunedau maent yn eu gwasanaethu.

Mae’r holl Aelodau eraill yn:

Unrhyw sefydliad sy’n cefnogi a fydd yn cyfrannu tuag at gyflawni nodau ac amcanion YCC, yn cynnwys:-

  • (a) Cwmnïau, partneriaethau, unig fasnachwyr ac ymgynghoriaethau preifat sy’n gwneud elw, nad ydynt yn bodloni’r gofynion i fod yn Aelodau Cymunedol.

(b) Cyrff cyhoeddus, megis adrannau llywodraeth ac asiantaethau cenedlaethol neu ranbarthol, awdurdodau lleol, cynghorau cymuned, cymdeithasau tai a chyrff cynrychioliadol eraill.

(c) Unrhyw fenter gymdeithasol neu sefydliad dielw preifat, sydd ar hyn o bryd yn cefnogi datblygu cyflawni prosiectau ynni cymunedol yng Nghymru.

(ch) Unrhyw sefydliad dielw preifat lleol, rhanbarthol, cenedlaethol neu sy’n perthyn i’r Trydydd Sector nad ydynt yn cymhwyso fel Aelodau Cymunedol.

Diffiniadau

Mae prosiectau ynni cymunedol yn rhai sy’n eiddo i ac yn cael eu rheoli gan fenter leol neu sefydliad dielw preifat yn llwyr neu’n rhannol, ac mae eu buddion yn cael eu rhannu y tu hwnt i’r rhai sy’n buddsoddi’n ariannol yn y prosiect.

Mae sefydliadau menter lleol a sefydliadau dielw preifat yn cynnwys: Sefydliadau Elusennol Corfforedig, Elusennau, Cwmnïau Cyfyngedig Trwy Warant, Ymddiriedolaethau Datblygu, Cymdeithasau Budd i’r Gymuned, Cymdeithasau Cydweithredol, Cwmnïau Buddiannau Cymunedol, Cwmnïau Cymdeithasol, Cymdeithasau Cymunedol ac endidau anghorfforedig sy’n bwriadu bod yn gorfforedig fel un o’r uchod.

I wneud cais i fod yn aelod o Ynni Cymunedol Cymru

Cliciwch yma am aelodaeth gymunedol

Cliciwch yma am bob aelodaeth arall

Gallwch hefyd wneud cais am becyn ymgeisio am aelodaeth sy’n cynnwys ffurflen aelodaeth PDF. Cysylltwch â info@communityenergywales.org.uk.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: