Ynni Cymunedol Cymru

Cyllid

Rydym yn ymdrechu i ddiweddaru’r dudalen hon mor gyson â phosibl o ran cyfleoedd cyllido ac ariannu. Diweddarwyd y dudalen hon ddiwethaf ar: 14.8.2022

Cyfleoedd Cyllido:

Mae Sefydliad Elusennol MCS yn agored i ariannu ystod o brosiectau sy’n hyrwyddo eu cenhadaeth i gyflymu’r broses o fabwysiadu technolegau ynni adnewyddadwy a charbon isel.

Mae Centrica yn dyfarnu grantiau i fusnesau newydd sy’n creu cynhyrchion a gwasanaethau arloesol a all gyflymu’r trawsnewidiad ynni. Mae hyn yn cynnwys lleihau allyriadau carbon, newid defnydd cymdeithasol a chwsmeriaid o ynni neu helpu cymunedau i wella eu rheolaeth ynni a sicrhau budd gwirioneddol i’r ardal leol.

Mae Gwasanaeth Ynni Llywodraeth Cymru yn dwyn ynghyd wasanaethau cymorth a ddarparwyd yn flaenorol fel Twf Gwyrdd Cymru a’r Gwasanaeth Ynni Lleol. Mae’r gwasanaeth yn darparu cefnogaeth ariannol a thechnegol i helpu grwpiau sector cyhoeddus a chymunedol yng Nghymru i ddatblygu eu cynlluniau ynni adnewyddadwy eu hunain.

Datblygwyd y Gronfa Ynni Cymunedol ar y cyd â’r Loteri Fawr ac Ynni Cymunedol Cymru i ddarparu’r gefnogaeth ariannol sy’n ofynnol i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol o’r astudiaethau dichonoldeb cychwynnol hyd at eu gosod.

Ers mis Mawrth 2019, mae Remarc yn ymwneud â chyflawni’r Prosiect Ynni Doethach. Ariennir y prosiect hwn gan y Cynllun Cydweithredu a Datblygu’r Gadwyn Gyflenwi (Mesur 16: 2), sy’n rhan o Raglen Cymunedau Gwledig Llywodraeth Cymru - Rhaglen Datblygu Gwledig 2014 - 2020, a ariennir gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Amaethyddol Ewrop ar gyfer Datblygu Gwledig. (EAFRD).

Bydd y Gronfa Gweithredu Hinsawdd yn cefnogi cymunedau yn y DU i weithredu’n lleol ar newid yn yr hinsawdd. Bydd y cymunedau hyn yn sefyll fel bannau o’r hyn sy’n bosibl pan fydd pobl yn arwain ar newid yn yr hinsawdd.

Ardal: Ledled y DU Yn addas ar gyfer: Partneriaethau dan arweiniad cymunedol sefydliadau gwirfoddol, preifat a chyhoeddus Cyfanswm ar gael: £ 100 miliwn Dyddiad cau ar gyfer ceisiadau: Bydd ceisiadau’n agor yn Hydref 2019

Cefnogaeth rhad ac am ddim i helpu gwneud eicg adeiladau cymunedol yn fwy ynni-effeithlon

Mae’r Community Energy Accelerator yma i helpu lenwi’r bwlch cyllido ar gyfer prosiectau ynni cymunedol. Gyda £1.5m o gyllido ar gael, mae’r benthyciad hwn ar gyfer cymunedai sy’n adeiladu ac yn rheoli cynhyrchiant ynni adnewyddadwy lleol i fuddio’r gymuned leol tra’n creu ynni gwyrdd, rhatach.

Cyfleoedd Cyllido sydd yn dod yn fuan:

Rhestrau Cyllido Allanol

  • Mae diweddariad cyllid Cyfoeth Naturiol Cymru yn rhoi trosolwg o’r arian sydd ar gael o amrywiol ffynonellau i grwpiau ac elusennau ar gyfer prosiectau ac achosion amgylcheddol.

  • Mae WCVA wedi datblygu platfform cyllid newydd o’r enw Cyllido Cymru. Gallwch chwilio cannoedd o gyfleoedd cyllid grant a benthyciad o ffynonellau lleol, cenedlaethol a rhyngwladol. O grantiau bach i brosiectau cyfalaf mawr gallwn eich helpu i ddod o hyd i’r cyllid sydd ei angen arnoch. I gael cefnogaeth unigol gan eich CGS lleol, cliciwch eich ardal ar y map isod.

  • Mae gwefan Busnes Cymru yn cynnig cyngor a manylion y cyllid sydd ar gael i fusnesau ac unigolion, gan gynnwys offeryn Chwilio Cyllido Busnes Cymru.
Westmill solar coop photo by adrian arbib credit Solar awel Celebrate AFR DPW220518WindPants01

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: