Ynni Cymunedol Cymru

Cefnogaeth

Ar hyn o bryd mae yna ystod o gefnogaeth ar gael i grwpiau sy’n ystyried datblygu Prosiectau Ynni Cymunedol yng Nghymru. Mae hyn ar gael i grwpiau sydd ar unrhyw gam yn y broses, o feddwl am syniad yn unig hyd at ariannu’r cynllun.

Mae Adnewyddu Cymru yn darparu cefnogaeth Cymheiriaid i unrhyw grŵp sy’n dymuno cychwyn menter weithredol mewn perthynas â newid yn yr hinsawdd. Mae Adnewyddu Cymru yn gallu cefnogi unrhyw fath o brosiect cyn belled ei fod yn taclo achosion neu effeithiau newid yn yr hinsawdd. Mae’n gallu gwneud hyn drwy ei rwydwaith o Fentoriaid Cymheiriaid sy’n gallu cynnig cyngor hyblyg a phenodol yn seiliedig ar eich gofynion. Mae hyn yn cynnwys cefnogi ystod eang o Brosiectau Ynni Cymunedol – am fwy o fanylion ewch yma.

Mae gan Robert Owen Community Banking arian ar gael ar gyfer cefnogi cymunedau yng Nghymru i ddatblygu prosiectau ynni adnewyddadwy. Datblygwyd Cronfa Ynni Cymunedol mewn cydweithrediad â’r Loteri Fawr ac Ynni Cymunedol Cymru, ar gyfer darparu’r gefnogaeth ariannol sydd ei angen ar brosiectau cymunedol er mwyn symud ymlaen o’r astudiaeth dichonolrwydd gychwynnol i’r gwaith gosod. Mae’r Gronfa Ynni Cymunedol yn darparu math o arian mesanîn ar gyfer talu am gostau risg uchel cychwynnol datblygiad. Am fwy o wybodaeth, ewch yma.

Ynni Lleol. Mae Gwasanaeth Ynni Lleol Llywodraeth Cymru yn cynnig cymorth ariannol a thechnegol i helpu mentrau cymdeithasol a BBaChau ledled Cymru i ddatblygu eu cynlluniau ynni adnewyddadwy eu hunain. Am fwy o fanylion ewch yma.

Mae Cymru Effeithlon yn wasanaeth gan Lywodraeth Cymru sy’n darparu un pwynt cyswllt i bobl (domestig, busnes, cymunedol, gwirfoddol a’r sector cyhoeddus) er mwyn rhoi cymorth ynglŷn â defnyddio adnoddau (ynni, deunyddiau a dŵr) yn fwy effeithlon. Am fwy o fanylion ewch yma.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: