Ynni Cymunedol Cymru

Ynglŷn â Ni

Mae Ynni Cymunedol Cymru yn sefydliad dielw ar gyfer aelodau a sefydlwyd i roi cymorth a llais i grwpiau cymunedol sy’n gweithio ar brosiectau ynni yng Nghymru. Rydym eisiau helpu i greu’r amodau yng Nghymru sy’n caniatáu i brosiectau ynni cymunedol lwyddo ac i gymunedau ffynnu.

Gweledigaeth: Rhoi pobl wrth galon y system ynni.

Cenhadaeth: Cefnogi a chyflymu’r trawsnewidiad i system ynni deg, carbon isel ac a arweinir gan y gymuned.

Nid oes amheuaeth ynglŷn â’r buddion all lifo i gymunedau o ganlyniad i ddatblygu prosiectau ynni cymunedol – ond fel mae nifer cynyddol o sefydliadau cymunedol yn ei ddarganfod, gall y daith o feddwl am yr egin syniad i wireddu prosiect fod yn un lawn rhwystredigaeth ac oedi diddiwedd. Rydym yn cefnogi grwpiau i ddatblygu prosiectau trwy:

  • darparu platfform i grwpiau cymunedol allu rhannu eu profiadau a dysgu oddi wrth ei gilydd, rydym yn gobeithio gallu cynyddu cyflymder y datblygiad.
  • casglu tystiolaeth ynglŷn â ble mae’r rhwystrau sy’n creu oedi neu’n atal cynlluniau – boed hynny’n fynediad i’r math priodol o gyllid ar yr adeg briodol, materion cynllunio a thrwyddedu neu gysylltu â’r grid
  • rydym yn gobeithio gallu ymgyrchu ar ran y sector a dylanwadu ar lunio polisi ynni yng Nghymru er mwyn cefnogi gosod targedau ynni cymunedol clir.

Os yw eich grŵp neu sefydliad cymunedol yn cefnogi’r amcanion hyn – ymunwch â ni heddiw os gwelwch yn dda.

Gellir canfod mwy o fanylion am yr ystod o fuddion a geir drwy ymaelodi, a’r gwahanol fathau o aelodaeth sydd ar gael, ar ein tudalen Aelodau.

Ynglyn a ni Winners Https %2F%2Fypapurgwyrdd.files.wordpress.com%2F2016%2F05%2Fymweld safle fferm wynt awel 1 23052016 (1)
Wind pic Climate conference AGM

Pwy ydym ni?

Ffurfiwyd Ynni Cymunedol Cymru yn 2012. Mae gennym fwrdd rheoli sy’n cynnwys pobl broffesiynol sy’n gweithio yn y sector ynni cymunedol, ond mae’r sefydliad yn perthyn i’w aelodau sy’n gallu pleidleisio ar gyfansoddiad y bwrdd hwnnw yn flynyddol. Ariennir Ynni Cymunedol Cymru ar y cychwyn gan Lywodraeth Cymru, ond mae’n rhaid iddi godi canran gynyddol o’i gostau gweithredu drwy Nawdd a gweithgareddau cynhyrchu incwm eraill. Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â sefydliadau eraill er mwyn darparu cymorth a chyfleoedd rhwydweithio i grwpiau ynni cymunedol yng Nghymru.

Rydym yn cyflogi rheolwr busnes i gydlynu gweithgareddau’r sefydliad. Mae’r gyflogaeth hon yn cael ei chynnal gan bartner sefydliad, Cymdeithas Ymddiriedolaethau Datblygu Cymru, sydd hefyd yn darparu ein cyfeiriad cofrestredig, ym Mhenarth.

Gellir darllen ein Herthyglau Cymdeithasu yma Memorandum and Articles.

Ein Gweithgareddau

Ein dull yw creu rhaglen o gefnogaeth ymarferol er mwyn ysbrydoli cymunedau i weithredu, cefnogaeth addysgol i’w grymuso i ddatblygu eu cynlluniau yn unol â’u hanghenion, cyngor a chymorth ariannol i’w helpu i weithredu’r cynlluniau yn gynaliadwy yn y tymor hir, a dylanwadu ar y bobl a’r polisïau angenrheidiol i sicrhau bod y cynlluniau yma yn llwyddo, a rhannu eu profiadau ag eraill

  • Rydym wedi datblygu ein tyrbin gwynt 900kW a adeiladwyd ym mis Awst 2017. Gobeithiwn y bydd hyn yn darparu incwm i YCC i gefnogi cynaliadwyedd ein sefydliad. Am ragor o wybodaeth ewch i http://www.ynniteg.cymru/
  • Buom yn gweithio’n ochr yn ochr â’n haelodau a’n partneriaid i lobïo Llywodraeth Cymru i ddarparu rhyddhad ardrethi busnes ar gyfer hydros sy’n eiddo i’r gymuned a ddioddefodd y cynnydd enfawr yn y gyfradd y llynedd.
  • Rydym yn gweithio mewn partneriaeth â datblygwr gwynt i ddatblygu prosiectau perchnogaeth ar y cyd ar raddfa fawr gyntaf o’i fath yng Nghymru.
  • Wedi sicrhau arian i dreialu’r model Ynni Lleol sy’n cael ei gyflwyno ym Methesda ac 15 cymuned arall yng Nghymru.
  • Wedi sicrhau arian am ychydig dros 2 flynedd gan Lywodraeth Cymru i gynyddu’r gefnogaeth a datblygu cyfleoedd pellach ar gyfer Ynni Cymunedol trwy agenda Ynni Lleol a rhannu perchnogaeth Llywodraeth Cymru.
  • Rhedeg cyfres o ddigwyddiadau rhannu gwybodaeth yn gwahodd Awdurdodau Lleol ac aelodau o’r gymdeithas sifil i ddod i ymweld â phrosiect ynni cymunedol.

Beth nad ydym yn ei wneud:

Nid ydym yn ymgynghoriaeth ac ni allwn roi cyngor uniongyrchol ar sefydlu prosiect ynni cymunedol, fodd bynnag, rydym yn gweithio gyda phobl a all roi cyngor o’r fath ac a gallant eich cyfeirio atynt.

Tanysgrifiwch am ein Cylchlythyr

I fod y cyntaf i glywed ein newyddion & cynigion diweddaraf, llenwch y ffurflen isod: